Mae Rosie wedi gwirioni ar y gyfres deledu ‘Yr Estronos’ ac am astronots, a phan mae llong ofod yn glanio yn yr ardd gefn, mae’n methu â chredu ei lwc. Nofel am greu cyfeillgarwch, am deithio’n ôl ac ymlaen mewn amser, am dyfu i fyny mewn byd cymhleth ac anodd, ac am wthio ffiniau’r dychymyg i’r eithaf.
Daw Megan Angharad Hunter o Benygroes a graddiodd yn y Gymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2021 am ei nofel gyntaf, tu ôl i’r awyr. Bu’n rhan o gyfres Y Pump gyda’r nofel Cat a enillodd wobr Tir na n-Og a chategori Plant a Phobol Ifanc Llyfr y Flwyddyn 2022.
Reviews
There are no reviews yet.