Trawsffurfio’r Seintiau : Llawysgrif Yale o Fucheddau’r Saint

£24.99

by Callander, David | Literary studies: classical, early & medieval
Published 15/05/2024 by UNIVERSITY OF WALES PRESS (Gwasg Prifysgol Cymru) in the United Kingdom
Paperback | 312 pages, No

SKU: 9781837721207 Category:

Yn anaml iawn y daw ffynonellau newydd ar gyfer y Gymru ganoloesol gynnar i’r amlwg. Ond dyma a geir yn llawysgrif Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb229 – llawysgrif modern cynnar sy’n drysorfa o destunau hagiograffaidd. Ei thrysor mwyaf yw ei fersiwn unigryw o Fuchedd Cybi, a all gynnwys elfennau mor gynnar â’r ddegfed neu’r unfed ganrif ar ddeg, gan gyflwyno tystiolaeth gwbl newydd am Gybi a’i gwlt canoloesol. Nid am ei chopi o Fuchedd Cybi yn unig y mae’r gyfrol hon yn arwyddocaol. Fe ddengys yn ogystal sut yr aethpwyd ati i addasu gweithiau megis Buchedd Beuno a Buchedd Collen yn yr Oesoedd Canol diweddar a’r cyfnod modern cynnar; tystia i weithgarwch rhwydweithiau Catholig ac unigolion megis Edward Morgan o Lys Bedydd, offeiriad Catholig a greodd y cyfieithiad unigryw o Fuchedd Gwenfrewy yn y llawysgrif hon, ac a ddienyddiwyd maes o law. Diogelwyd y testunau hyn oll gan ysgrifydd amryddawn y llyfr, Robert Davies o Wysanau, Sir y Fflint, a chawn gyflwyniad i’w fywyd, ei weithgarwch a’i ddiddordebau eang.

Weight 0.39 kg

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Trawsffurfio’r Seintiau : Llawysgrif Yale o Fucheddau’r Saint”

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Shopping Basket
Scroll to Top